Gweithdy 1: Adfywio iaith, mudoledd a thrawsnewid cymunedol

22-23 Mai 2017, Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen Gweithdy 1

Bydd y gweithdy cyntaf hwn yn cloriannu dylanwad y gymuned leol, diriogaethol yn ar ein bywydau cyfoes, ac yn ail-ystyried ei arwyddocâd o safbwynt siapio arferion defnydd iaith unigolion. Fel rhan o hyn, bydd sylw yn cael ei roi i oblygiadau’r symudiad tuag at fywydau mwyfwy symudol sy’n cwmpasu ardaloedd daearyddol ehangach. Bydd sylw hefyd yn cael ei roi i oblygiadau y dirywiad a welwyd, mewn sawl lleoliad, mewn arferion cymdeithasu anffurfiol a hefyd oblygiadau y chwyldro a fu mewn technoleg cyfathrebu a dyfodiad yr hyn a gaiff ei ddisgrifio fel y ‘gymdeithas rwydweithiol’. Yn ogystal, bydd trafod ar oblygiadau patrymau cyfoes o fewnfudo – domestig a rhyngwladol – i ymdrechion adfywio iaith.

Adroddiad Gweithdy 1: Adfywio iaith, mudoledd a thrawsnewid cymunedol

Crynodeb gweithredol - Cymraeg / Saesneg / Gaeleg

Deunydd arall o Weithdy 1