Amdanom

Mae Adfywio yn brosiect ymchwil, a gaiff ei ariannu gan yr AHRC, sydd â’r nod o astudio beth yw oblygiadau rhai o’r newidiadau cymdeithasol, economaidd, a gwleidyddol cyfoes a welir ar draws cymdeithasau gorllewinol i’n dealltwriaeth o sut dylid llunio ymdrechion adfywio iaith sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd y rhwydwaith yn dwyn ynghyd grŵp rhyngwladol ac amlddisgyblaethol o ymchwilwyr academaidd sy’n cwmpasu y celfyddydau, y dybiaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, ynghyd  â nifer o ymarferwyr polisi blaenllaw.

Pam?

Cafodd y rhwydwaith ymchwil arloesol hon ei sefydlu am ddau reswm pwysig.

  • I ddechrau, mae ymdrechion polisi sy’n amcanu i adfywio rhagolygon ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol bellach yn fwyfwy cyffredin ar draws Gorllewin Ewrop. Yn wir, dros y degawdau diwethaf mae polisïau adfywio iaith wedi datblygu i fod yn fentrau mwyfwy pellgyrhaeddol a bellach yn cyffwrdd ar ystod o beuoedd cymdeithasol pwysig, gan gynnwys y cartref teuluol, y sustem addysg, y cyfryngau, yr economi a chymdeithas sifil.
  • Yn ail, ac yn fwy pwysig, datblygwyd yr ymdrechion adfywio iaith hyn yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol pellgyrhaeddol.Caiff y cyfnod sy’n pontio diwedd yr ugeinfed ganrif a blynyddoedd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain ei ystyried  fel cyfnod o drawsnewid cymdeithasol pellgyrhaeddol, na welwyd ei fath, o bosib, ers gwawr yr oes ddiwydiannol. Bellach, mae cymdeithasau yn fwyfwy unigolyddol, amrywiol a symudol; mae eu heconomïau yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig; ac mae eu strwythurau llywodraethol yn fwyfwy cymhleth, gan gwmpasu ystod eang o actorion gwahanol. Ymhellach, mae ystod o’r ffactorau sydd yn aml yn cael eu pwysleisio fel rhai allweddol i hyfywedd cymuned ieithyddol – y teulu, y gymuned leol, yr economi – yn gysylltiedig ag elfennau o’n bywyd sydd wedi’i heffeithio’n fawr gan y patrymau yma o newid cymdeithasol. Eto i gyd, hyd yma ni roddwyd ystyriaeth ddifrifol i’r graddau y dylai ein cyd-destun cymdeithasol newidiol arwain at ail-ystyried sut caiff y nod o adfywio iaith leiafrifol ei gyrchu.

Cwestiynau allweddol

Trwy ei waith bwriad y rhwydwaith yw ceisio cynnig atebion i gwestiynau tebyg i’r canlynol:

  • I ba raddau y dylai newidiadau diweddar i natur bywyd cymunedol a phatrymau o ymwneud cymdeithasol arwain at ail-ystyried y pwyslais traddodiadol a geir o fewn fframweithiau adfywio iaith ar gyfraniad rhwydweithiau lleol, anffurfiol, ac yn aml, gwledig, i gynnal patrymau defnydd iaith sefydlog.
  • I ba raddau y dylai newidiadau diweddar yn y modd mae teuluoedd yn trefnu eu bywyd domestig ac yn gofalu am eu plant arwain at ail-ystyried y pwyslais traddodiadol a geir o fewn fframweithiau adfywio iaith ar rôl y cartref teuluol wrth hybu patrymau caffael iaith cyson.
  • I ba raddau y dylai datblygiadau economaidd diweddar megis globaleiddio a’r symudiad tuag at ffurfiau ar gyflogaeth sy’n rhoi pwyslais ar ‘sgiliau’ a ‘gwybodaeth’ arwain at ail-ystyried y  pwyslais traddodiadol a geir o fewn fframweithiau adfywio iaith ar yr angen i sicrhau bod yr iaith leiafrifol yn meddu ar fesur o werth economaidd?
  • I ba raddau y dylai’r newidiadau a welwyd o ran natur y wladwriaeth a dyfodiad modelau newydd o llywodraethiant arwain at ail-ystyried y pwyslais traddodiadol a geir o fewn fframweithiau adfywio iaith ar yr angen am gefnogaeth a chydnabyddiaeth tymor-hir i’r iaith leiafrifol?

Bydd y rhwydwaith yn astudio’r cwestiynau hyn, gan roi sylw i sefyllfa ystod o gymunedau iaith Ewropeaidd, a gyda’r bwriad o adnabod gwersi a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi ac actorion cymdeithas sifil ar y lefel rhanbarthol, gwladwriaethol a rhyngwladol.