Pobl

Caiff y rhwydwaith Adfywio ei chydlynu gan dim o dri ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caeredin.

  • Mae Dr Huw Lewis yn ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys adfywio iaith, polisi a chynllunio iaith, trafodaethau ynglŷn ag amlddiwylliannedd a chenedlaetholdeb a gwleidyddiaeth Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Yn ogystal â’r rhwydwaith Adfywio mae Huw hefyd yn cyfrannu at y prosiect ymchwil canlynol: Mudiadau Ymreolaeth a Chyfiawnder Economaidd a Gofodol (rhan o brosiect H2020 IMAJINE, ‘Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer Ymdrin â Chyfiawnder ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop’). Cysylltwch â Huw.
  • Mae’r Athro Wilson McLeod yn Athro Gaeleg yn yr Adran Astudiaethau Celtaidd ac Albanaidd ym Mhrifysgol Caeredin. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys polisi a chynllunio iaith, deddfwriaeth ieithyddol a hawliau iaith a llenyddiaeth Gaeleg yr Alban ac Iwerddon. Cysylltwch â Wilson.
  • Mae Dr Elin Royles yn uwch ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth y deyrnas gyfunol ers datganoli, cenedlaetholdeb is-wladwriaethol a pholisi a chynllunio iaith. Yn ogystal â’r rhwydwaith Adfywio mae Elin hefyd yn cyfrannu at y prosiect ymchwil canlynol: Addysg, Iaith a Hunaniaeth  (rhan o waith Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD); Mudiadau Ymreolaeth a Chyfiawnder Economaidd a Gofodol (rhan o brosiect H2020 IMAJINE, ‘Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer Ymdrin â Chyfiawnder ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop’).  Cysylltwch â Elin.

Cefnogir y grŵp llywio gan banel cynghori cryf, sy’n cynnwys yr unigolion canlynol:

  • Yr Athro Colin H. Williams (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro François Grin (Observatoire ÉLF, Prifysgol Genefa)
  • Yr Athro Tove Malloy (European Centre for Minority Issues, Flensburg)
  • Dr Fiona O’Hanlon (Ysgol Addysg, Prifysgol Caeredin ac aelod o Board na Gàidhlig)
  • Dyfan Siôn (Uwch Swyddog Ymchwil a Pholisi, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg)
  • Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr, NPLD)