Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

11:00-12:30, 28 Medi 2019, Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Trafodaeth a oedd yn cymharu a chloriannu strategaethau iaith llywodraethau rhanbarthol yn Ewrop a thu hwnt.

Trefnwyd fel rhan o’r wyl GWLAD a gynhaliwyd i nodi 20 mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Siaradwyr: Alun Davies AC (cyn Weinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes), Graham Fraser (cyn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada), Yr Athro Colin Williams (Prifysgol Caerdydd) a Patxi Baztarrika (cyn Is-Weinidog Polisi Iaith, Llywodraeth Ymreolus Gwlad y Basg) a’r Dr Elin Royles (Prifysgol Aberystwyth).

Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol rhoddwyd cychwyn ar gyfnod newydd o weithgaredd polisi oedd â’r nod o hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg mewn modd mwy cydlynol. Yn ganolog i hyn bu’r drindod o strategaethau iaith cenedlaethol a gafodd eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru: i ddechrau, Iaith Pawb (2003), wedyn Iaith Fyw: Iaith Byw (2012), ac yna’r mwyaf diweddar, Cymraeg 2050 (2017), gyda’i darged uchelgeisiol o geisio cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050. At ei gilydd y disgwyl oedd y byddai’r strategaethau hyn yn darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer pob menter a chynllun arall sy’n ymwneud â chefnogi’r iaith Gymraeg. Fodd bynnag, nid dim ond yng Nghymru y rhoddwyd pwyslais ar strategaethau iaith swyddogol fel elfen allweddol yn yr ymdrech i hybu rhagolygon iaith leiafrifol. Dros y ddau ddegawd diwethaf dilynwyd trywydd tebyg gan lywodraethau mewn mannau megis Catalonia, Gwlad y Basg, Galisia, yr Alban, Iwerddon, Canada a Seland Newydd.

Amcan y drafodaeth banel hon oedd cymharu profiadau diweddar o hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol yn rhai o’r lleoliadau hyn, ac yn benodol, cloriannu cyfraniad y strategaethau iaith swyddogol a fabwysiadwyd gan y llywodraethau perthnasol. Beth fu amcanion y strategaethau hyn? Sut maent wedi cael eu defnyddio? Pa mor effeithiol ydynt? Beth all Cymru ei ddysgu o achosion eraill? Ac ym mha ffyrdd y mae Cymru wedi arwain y ffordd yn ystod oes datganoli?

  • Gellir gweld fideo o’r drafodaeth ar safle Senedd TV y Cynulliad Cenedlaethol yma.
  • Gellir lawrlwytho copi o anerchiad Graham Fraser (cyn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada) yma.