Gweithdy 2: Adfywio iaith, addysg blynyddoedd cynnar a thrawsnewidiad bywyd teuluol

8-9 Medi 2017, Prifysgol Caeredin

Bydd yr ail weithdy yn ystyried sut y mae newidiadau diweddar yn y modd y mae pobl yn trefnu eu bywydau domestig yn effeithio ar y modd y mae’r uned deuluol yn cyfrannu at y broses o gaffael iaith. Mae arfer o weld dau riant yn gweithio’n llawn amser wedi arwain at aelodau hyn o’r teulu yn cyfannu mwyfwy at fagwraeth plant a hefyd wedi arwain at ddefnydd cynyddol o ystod o ddarparwyr gofal ac addysg cyn-ysgol. O ystyried newidiadau o’r fath, bydd y gweithdy yn ystyried i ba raddau y mae galw am ail-ystyried y pwyslais traddodiadol a roddwyd ar y teulu fel rhan o fframweithiau adfywio iaith.

Adroddiad Gweithdy 2: Adfywio iaith a thrawsnewidiad bywyd teuluol

Crynodeb gweithredol - Cymraeg / Saesneg / Gaeleg

Deunydd arall yn deillio o Weithdy 2