Gweithdy 3: Adfywio iaith a thrawsnewid economaidd

5 Hydref 2018, Canolfan y Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd

Rhaglen Gweithdy 3

Bwriad y trydydd gweithdy hwn fydd troi’r ffocws tuag at yr economi. Dros y blynyddoedd mae’r llenyddiaeth academaidd a’r llenyddiaeth polisi sy’n trafod ieithoedd lleiafrifol wedi rhoi pwyslais cyson ar bwysigrwydd ffactorau economaidd gwahanol. Fodd bynnag, mae’r drafodaeth hon wedi tueddu i gael ei chynnal ar lefel gyffredinol iawn. Amcan y gweithdy hwn, felly, fydd ceisio crynhoi agenda o gwestiynau penodol y mae angen i’r sawl sy’n gweithio ym maes polisi a chynllunio iaith roi sylw iddynt os am ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng prosesau economaidd a lefelau o hyfywedd ieithyddol.

Adroddiad Gweithdy 3: Adfywio iaith a thrawsnewid economaidd

Crynodeb gweithredol - Cymraeg / Saesneg / Gaeleg