14-15 Chwefror 2019, Y Senedd a'r Pierhead, Bae Caerdydd
Bwriad fydd ystyried beth yw oblygiadau trawsnewidiadau cyfoes o ran llywodraethiant mewn gwladwriaethau democrataidd i'n dealltwriaeth o sut all ymdrechion i hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol gael eu trefnu. Beth yw oblygiadau’r duedd i weld penderfyniadau polisi bellach yn cael eu cymryd ar nifer o lefelau gwahanol o lywodraeth, neu’r duedd i weld ystod o gyrff (preifat neu drydydd sector) ar wahân i'r wladwriaeth, bellach yn cyfrannu at brosesu llunio a datblygu polisi? A yw rhain yn dueddiadau sydd yw gweld ym maes polisi iaith?
Adroddiad gweithdy 4: Adfywio iaith a llywodraethiant newydd